|
Mae Taith yn cyflwyno datrysiadau
sy'n canolbwyntio ar ddatblygu gallu sefydliad i fonitro a gyrru
ymlaen gwelliant o ansawdd uchel. Mae llawer o'n cleientiaid o'r
sectorau gofal, addysg neu dai.
Ein ffocws yw systemau hunan werthuso
effeithiol sydd dan berchnogaeth rheolwyr a staff, ac sy'n cael
eu gyrru ganddynt, ond sy'n parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau
cadarnhaol i gwsmeriaid.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i arwain
pobl er mwyn sicrhau bod y strategaethau a'r datrysiadau canlyniadol
dan berchnogaeth yr holl hapddalwyr allweddol.
Rydym yn defnyddio ymagwedd Ymchwilio
Gwerthfawrogol ac yn canolbwyntio ar ymarfer da wedi'i seilio
yn y gred bod yr hyn rydym yn canolbwyntio arno yn dod yn realaeth.
Rydym hefyd yn defnyddio'r dulliau 'Gofod
Agored' a 'Chaffi'r Byd' ble mae angen i bobl gymryd rhan ac
ymgynghori mewn ffyrdd creadigol.
Edrychwch ar y rhestr ar y dde i weld yr ystod lawn o'n gwasanaethau
a chliciwch y saeth i ddarganfod mwy. Rydym hefyd yn cyflawni gwaith
pwrpasol yn ôl gofyn ein cleientiaid, ac mae hyn wedi cynnwys adolygiadau
o brosesau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol a chyngor ar systemau rheoli
gwybodaeth.
I ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan ein cleientiaid presennol a
chyn cleientiaid i'w ddweud amdanom, cliciwch
yma.
|