Gwerthuso gwasanaeth yw craidd ein busnes. Rydym yn darparu ystod o ddatrysiadau, gan gynnwys adolygiadau annibynnol ar gydymffurfiad rheoleiddio i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu eu systemau hunan werthuso eu hunain.

Rydym yn cynorthwyo sefydliadau i osod hunan werthuso a gwella ansawdd.

Hunan werthuso
Fframweithiau archwilio
Adolygiadau thematig
Ymweliadau rheoleiddio

Mae llawer o'n gwaith gwerthuso yn cael ei danategu gan y model Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn y gred bod y newid mwyaf cadarnhaol a chynaliadwy wedi'i wreiddio mewn adnabod beth sydd wedi gweithio ac adeiladu ar hyn.

Hunan werthuso - wrth galon rheoleiddio mae'r cysyniad o hunan werthuso; mae hyn bellach yn ofyniad ac yn rhan integrol yn y mwyafrif o'r prosesau archwilio. Fodd bynnag, mae'r cysyniad bod gan sefydliad fodd strwythuredig o adolygu ei waith ei hun yn cael ei dderbyn fel ymarfer busnes gorau. Rydym ni'n darparu arweiniad a hyfforddiant i sefydliadau i wella eu prosesau hunan werthuso. Mae'r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu i staff yn eu cynnwys ac yn eu hysgogi gan sicrhau bod pawb yn rhan o'r broses. Rydym hefyd yn sicrhau bod systemau'n cynnwys hapddalwyr allweddol, yn enwedig y cwsmer.

Fframweithiau archwilio - Rydym yn darparu cyngor a hyfforddiant i sefydliadau am fframweithiau archwilio, a'u goblygiadau ar gyfer y sefydliad. Rydym hefyd yn cyflawni gwerthusiadau gyda ffocws pendant ar y gwasanaeth i adnabod meysydd allai achosi pryder. Dyma sampl o'r ffyrdd ble gallwn ni gynorthwyo eich rheolwyr a'ch staff i ymateb yn fwy effeithiol i archwiliad a sicrhau gwell graddau:

  • Arweiniad wrth ddatblygu eich AHW (Adroddiad Hunan Werthuso)
  • Defnyddio ymagwedd Ymchwiliad Gwerthfawrogol er mwyn 'cymryd mantais' a datblygu cryfderau sydd eisoes yn bodoli
  • Ffug gyfweliadau gyda rheolwyr a staff er mwyn cynorthwyo unigolion i fod yn fwy parod am y broses archwilio ac i fwydo i mewn i'r broses AHW
  • Cyngor ar sut i 'reoli'r' broses archwilio
  • Cyngor ar sut i ysgrifennu adroddiadau gwerthuso a dulliau effeithiol eraill o eirio'r AHW
  • Darllen ffeiliau er mwyn gwirio dogfennau allweddol a sicrhau eu bod yn barod ar gyfer archwiliad.
  • Cyngor ar systemau mewnol o adnabod, monitro, dadansoddi, adrodd ar, ac ymateb i ddangosyddion perfformiad allweddol (DPA)

Adolygiadau thematig. Gallwn adolygu agweddau penodol o wasanaeth a darparu adroddiad dwfn yn seiliedig ar anghenion y sefydliad. Gall hwn gynnwys sefydlu gwasanaethau newydd, ac anghenion cofrestru.

Fel rhan o'r gwasanaeth yma rydym yn arbenigo mewn Adolygiad Cydymffurfiad Rheoleiddio. Mae hyn yn adnabod pa mor dda gall y sefydliad ymateb i reoleiddio ac archwiliad. Yn holl bwysig, rydym yn rhoi cyngor ac yn cynnig datrysiadau er mwyn sicrhau gall y sefydliad ddatblygu systemau cadarn ar gyfer gwerthuso mewnol.

Mae gennym hefyd brofiad uniongyrchol o drefniadau partneriaeth megis Partneriaethau Pobl Ifanc (PPI). Rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant fel y gall ein sefydliadau partner ddatblygu ac ymdrin â materion cymhleth sy'n codi o fewn trefniadau partneriaeth mawr.

Ymweliadau rheoleiddio. Mae deddfwriaeth, megis y Ddeddf Safonau Gofal, yn gofyn bod sefydliadau'n monitro ac adolygu ansawdd gofal o fewn eu gwasanaeth. Gallwn ddarparu gwasanaeth gwerthuso ac adrodd llwyr annibynnol er mwyn sicrhau bod y gofyniad yma'n cael ei gyflawni. Gallwn hefyd roi cyngor i sefydliad ar sut i weithredu eu systemau gwerthuso ac adolygu eu hunain.

 
 

Gallwch fesur sgiliau rheoli cwmni drwy ei barodrwydd i ofyn am adborth defnyddiol ac ymateb iddo mewn dull creadigol!

Forbes

 
 

 
 

Er mwyn cynyddu gallu darparwr i wella, rydym yn awgrymu dylid cymryd mwy o gyfrif o'r dystiolaeth a'r canlyniadau sy'n deillio o weithdrefnau hunan werthuso'r darparwr ei hun yn ystod y broses archwilio.

Rydym eisiau annog darparwyr i ddefnyddio hunan werthuso fel proses barhaus yn hytrach na'i defnyddio i gynhyrchu un adroddiad hunan werthuso unigryw cyn bo archwiliad ar fin cychwyn.

Cynigion Estyn ar gyfer 2010 - 2016

 
 

 
 

Cyfnod cyntaf unrhyw daith gwelliant yw deall perfformiad eich gwasanaethu. Mae llawer o'r amser dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio ar hyn.

Bydd cyfnod nesaf y gwelliant yn cyflwyno heriau newydd. Gyda chefnogaeth Grant Arbennig Cronfa Datblygu Rheoli Perfformiad mae awdurdodau lleol wedi buddsoddi mewn mesur perfformiad a systemau mesur perfformiad newydd.

Adroddiad Blynyddol AGGCC

 
 

 
 

Mae gan bobl fwy o hyder wrth deithio i'r dyfodol (sy'n anhysbys) os ydynt yn mynd ag elfennau o'r gorffennol (sy'n wybyddus) gyda hwy.

AI Assumption