|
Rydym
yn cyflawni ystod eang o waith ymchwil, yn enwedig o fewn
y sectorau gofal ac addysg.
Isod mae ychydig o enghreifftiau
o'r gwasanaethau gallwn eu darparu. Yn ogystal, rydym yn arbenigo
mewn ymagweddau ymchwil gweithredol sy'n arwain at gyfranogiad
go iawn gan y bobl sy'n berchnogion ar y broses.
- Mapio gwasanaethau - gallai hyn fod mewn ymateb
i drefniadau aml-asiantaeth megis Partneriaethau Pobl Ifanc
(PPI) ble mae ystod eang o ddarpariaeth ar draws sectorau
ac asiantaethau. Gallwn hefyd gynnig datrysiadau arloesol
i gyfathrebu a dosbarthu'r wybodaeth hon i lawr i lefel
sylfaenol.
- Arolygon effaith - sy'n arbenigo mewn adnabod yr
effaith mae gwasanaethau'n eu cael ar y cwsmer (pobl sy'n
derbyn gwasanaethau). Mae gennym brofiad helaeth o weithio
gyda darparwyr a chleientiaid, ynghyd â dealltwriaeth ddofn
o'r materion sy'n berthnasol i eiriolaeth. Rydym wedi cyflawni
gwerthusiadau ar wasanaethau, yn erbyn deddfwriaeth ac mewn
ymateb i ymholiadau penodol, ac rydym bob tro'n canolbwyntio
ar y canlyniadau i'r defnyddiwr.
- Arolygon thematig - mewn ymateb i anghenion gwneuthurwyr
polisi. Rydym yn gyfarwydd â'r materion allweddol ar draws
gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed, ac rydym yn gallu
gweithio mewn modd wedi'i ffocysu ac mewn modd sensitif
er mwyn adnabod tueddiadau a themâu sy'n ymddangos.
|
 |
|
 |
| |
YMCHWIL GWEITHREDOL
Mae'r syniad o ddefnyddio ymchwil
er mwyn achosi newid uniongyrchol i ymarfer yn ganolog
i ymchwil gweithredol. Mae ymchwil meintiol ac ansoddol
yn gallu arwain at broses hir o gasglu data, dadansoddi
ac yn y pen draw, creu adroddiad terfynol; a gall yr
ymchwilwyr ddim ond gobeithio y bydd ymarferwyr yn defnyddio'r
adroddiadau hyn i gyfarwyddo'u gwaith. Fodd bynnag,
mae ymchwil gweithredol yn gweithio'n uniongyrchol gydag
ymarferwyr neu aelodau o'r gymuned fel bod darganfyddiadau'n
cael eu defnyddio ar unwaith ac yn parhau i ddatblygu
ymarfer. Felly, syniad allweddol o fewn ymchwil gweithredol
yw ei fod yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag eraill
yn hytrach na chael ei wneud iddynt hwy.
Southampton
University
|
|
 |
|
 |
|
|