Mae gennym brofiad helaeth o reoli digwyddiadau ymgynghori sy'n sicrhau bod y cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, staff a hapddalwyr allweddol eraill yn cymryd rhan. Gallai'r rhain olygu rhyw ddwsin o bobl hyd at sawl cant. Mae ein hymagwedd yn aml yn cynnwys proses o readru drwy sefydliad cyfan a thu hwnt.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn defnyddio ymagweddau amgen i ymgynghori sy'n ysgogi ac yn ymrwymo cyfranogwyr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio Gofod Agored a Chaffi'r Byd.

I grynhoi, gallwn eich cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys y canlynol:

  • Datblygu systemau arloesol i roi llais i hapddalwyr allweddol ac i gyfrannu i benderfyniadau lleol a chanolog. Yn aml iawn mae hyn yn seiliedig ar ymagwedd Ymchwil Gwerthfawrogol.
  • Cynorthwyo sefydliadau i sefydlu fforymau ymgynghorol sy'n osgoi ymglymiad sy'n docynistiaeth yn unig.
  • Adolygu ac adrodd ar systemau a phrosesau presennol er mwyn gwella canlyniadau a'r niferoedd sy'n cymryd rhan.
  • Defnyddio'n profiad helaeth i ddatblygu systemau adborth ar-lein drwy RateUs er mwyn cael gwybod barn hapddalwyr allweddol ac adrodd arno.

  • Cynorthwyo sefydliadau i ymgynghori ar strategaethau neu bolisïau newydd er mwyn sicrhau y ceir barn gynrychiadol eang.
 
 

Wrth galon meini prawf y Nod Siartr mae'r cwestiwn sylfaenol hwn: beth mae'r cwsmer yn ei ddisgwyl neu'n gobeithio ei gael o'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig? Ni all unrhyw un fod yn sicr o sut rydym yn perfformio heb ymgynghori a chael adborth gan ddefnyddwyr. Mae'r Nod Siartr yn mynnu ein bod yn gwrando, gweithredu a chyflawni.

Nod Siartr

 
 

 
 

Wrth lansio'r adroddiad dywedodd Graham Williams: "Mae'r adroddiad yn amlygu'r angen parhaol am welliant mewn nifer o feysydd allweddol:

- rhaid gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr yn fwy rheolaidd

- rhaid sicrhau bod y gweithlu'n cymryd rhan yn cyfrannu tystiolaeth er mwyn cyfarwyddo penderfyniadau awdurdod

Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol - Datganiad i'r Wasg Rhagfyr 2004