Mae gennym brofiad helaeth o waith ymchwilio a chwynion gan gynnwys cyflwyno tystiolaeth i dribiwnlysoedd annibynnol. Rydym wedi cyflawni gwaith proffil uchel a sensitif ar ran awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, ymysg eraill. Rydym hefyd yn gallu adolygu a chynnig cyngor ar systemau a phrosesau cwyno.

Mae'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn cynnwys y canlynol:

  • Ail gyfnod ymchwiliad cwynion annibynnol (h.y. tu hwnt i ddatrysiad lleol).
  • Ymchwiliad ac adrodd ar feysydd penodol o bryder o fewn sefydliad, gan gynnwys adolygiadau rheolwyr.
  • Adolygu a datblygu systemau a phrosesau cwynion. Gall hyn gynnwys dylunio systemau olrhain a chofnodi gyda llaw ac electronig
  • Gwerthuso lefelau boddhad defnyddwyr a staff o fewn meysydd gwasanaeth penodol.
 
 

Weithiau, gall anghenion y 'system' rwystro'r angen i gwrdd ag anghenion a dymuniadau rhesymol y bobl mae wedi'i ddylunio i'w wasanaethu. Felly, wrth ddatblygu ein cynigion i adolygu gweithdrefn gwynion y GIG, rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwrando, dysgu a chlywed go iawn os yw ein gwasanaeth yn cwrdd, neu os nad yw'n cwrdd, â'r safonau rydym yn ymdrechu eu cyrraedd.

DIWYGIO GWEITHDREFN GWYNION Y GIG Ffocws Cleifion ac Ymglymiad y Cyhoedd