Roger RowettMae Taith yn ymroddedig i gefnogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu eu gallu i wella'n barhaus. Mae hyn yn seiliedig ar ddulliau a phrosesau sy'n cynnwys yr holl hapddalwyr allweddol ac sydd â chanlyniadau mesuradwy i'r cwsmer. O ganlyniad, ceir gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn seiliedig ar gynlluniau gweithredu ar y cyd y mae'r sefydliad cyfan yn 'meddu' arnynt. Mae'r mwyafrif o'n gwaith yn deillio o argymhelliad personol ac rydym wedi ennill enw da am gynnig gwasanaethau sy'n ddibynadwy ac yn effeithiol. Gallwn weithio mewn dull hynod o hyblyg ac ymatebol er mwyn cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.

Mae ein gwaith wedi'i seilio ar nifer fechan o dybiaethau:

  • Mae prosesau datblygiadol yn gweithio'n well pan fo'r holl hapddalwyr allweddol yn cymryd rhan;
  • Mae gan bobl, grwpiau a sefydliadau gryfderau ac 'asedau' y gellir eu defnyddio a'u datblygu;
  • Mae pobl yn dymuno gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a bod yn rhan o unrhyw ddatrysiad;
  • Mae sefydliadau'n symud i gyfeiriad yr hyn maent yn ei astudio;
  • Rhaid i bawb fod yn 'berchennog' ar gynlluniau gweithredu er mwyn gwneud y mwyaf o gynaliadwyedd.

Ym mhob agwedd o'n gwaith rydym yn sicrhau ein bod yn:

  • cytuno cylch gorchwyl eglur ac yn adolygu hwn yn rheolaidd
  • gweithio o sail foesegol wedi'i seilio ar barchu, gwerthfawrogi a gwrando ar bawb yr ydym yn gweithio â hwy
  • darparu ymgynghorwyr sydd â phrofiad sylweddol
  • ffocysu ar ganlyniadau go iawn sy'n canolbwyntio ar gryfderau presennol
  • sicrhau bod cynaliadwyedd wrth galon pob prosiect

Mae Roger yn gweithio gyda nifer o bartneriaid eraill sy'n darparu ystod eang o wasanaethau, yn bennaf o fewn y sectorau gofal, addysg a thai. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio, hyfforddi, adolygu gwasanaethau, gwaith person ganolog, ac ymchwil. I ddarganfod mwy am Roger a'r bobl eraill sy'n gweithio gyda Taith cliciwch yma

I ddarganfod mwy am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig cliciwch yma neu i glywed yr hyn sydd gan ein cleientiaid i'w ddweud amdanom cliciwch yma

 
 

Mae Roger yn dod â realaeth i'w waith gyda ni; ac mae popeth mae'n ei wneud yn canolbwyntio'n gadarn ar gymhwyso ymarferol a gweithredu syniadau newydd er budd y busnes.

Mae ei ymagwedd broffesiynol a chyfeillgar yn golygu ei fod yn ennill parch y staff. Mae hyn yn golygu eu bod hwy'n barod iawn i ymateb i adborth ar gryfderau ac ymateb i feysydd ble mae angen gwella.

Rheolwr Ansawdd Elusen Genedlaethol

 
 

 
 

Mae asesu ac adeiladu ar gryfderau unigolion ac asedau mewn cymuned yn agoriad llygad i ffyrdd newydd o feddwl am, ac o wella iechyd, a hefyd o ymateb i waeledd..

A Glass Half Full' - Dr Ruth Hussey, OBE Regional Director of Public Health