Young child looking down road into distanceCwestiwn - sut ydych chi'n gweithio gyda phobl yn ystyrlon er mwyn rhoi grym iddynt a'u hysgogi i dyfu ac i gyflawni?

Ateb - rydych yn darganfod y person cyfan. O ble maent wedi dod, ble maen nhw'n awr, ac i ble maent yn gobeithio mynd. Rydych yn eu gwerthfawrogi ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Rydych yn defnyddio'r wybodaeth hon i newid y ffordd rydych yn gweithredu.

Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau o fewn y sectorau gofal ac addysg i ddatblygu ymagwedd person ganolog. Y canlyniad yw cynnydd mewn ymrwymiad ac ysgogiad ymysg pawb sy'n cymryd rhan. Mewn rhai lleoliadau, mae'r canlyniadau wedi bod yn sylweddol.

Mae'n allweddol ein bod yn datblygu prosesau sy'n gynaliadwy - h.y. maent yn parhau ar ôl i ni adael! Rydym yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio sy'n gyrru a chynnal unrhyw newidiadau rydym yn eu cyflwyno.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliad i ddatblygu ymagwedd person ganolog i asesu a diogelu risg. Datblygu systemau sy'n cychwyn gyda'r person yn hytrach nac (er enghraifft) gyda'r gweithgareddau.

 
 

Mae'n hawdd trafod sut i feddwl a gweithio mewn dull person ganolog, ond mae'n anodd ei gyflawni. Mae'n canolbwyntio ar werthfawrogi'r person, gan roi gwybodaeth dda, gwrando'n weithredol, a rhoi geiriau ar waith.

Un o'r heriau mwyaf ar gyfer y rheiny sy'n ymglymedig â gweithio mewn dull person ganolog yw sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Roger Rowett