Mae technoleg Gofod Agored a Chaffi'r Byd yn ddulliau profedig o weithio'n agos mewn grwpiau bach a mawr. Gellir eu defnyddio mewn unrhyw ddigwyddiad ble mae angen cyfeirio at broblem go iawn. Gall hyn gynnwys digwyddiadau ymgynghori ble mae dymuniad dilys i ddarganfod beth yw barnau a dyheadau pobl.

Proses arloesol ond syml yw Caffi'r Byd i lywyddu trafodaethau am gwestiynau o bwys. Mae'r trafodaethau hyn yn cysylltu ac yn adeiladu ar ei gilydd wrth i bobl symud rhwng grwpiau i rannu syniadau a chael dealltwriaeth o'r newydd o'r cwestiynau neu'r materion pwysicaf yn eu bywydau, eu gwaith neu eu cymunedau. Mae Caffi'r Byd yn broses sy'n cynyddu gallu pobl i weithredu'n effeithiol er mwyn cwrdd â nodau cyffredin.

Mae Technoleg Gofod Agored yn ddull y gellir ei raddio a'i addasu i gyfeirio at faterion 'busnes' go iawn. Mae'n ymagwedd radical, ond hynod effeithiol sy'n caniatáu i gyfranogwyr osod yr agenda(u) yn seiliedig ar thema ganolog sydd wedi'i diffinio o flaen llaw. O ganlyniad i'r ymagwedd hyblyg yma, y prif gryfder yw'r gallu i ddod i ddeall gwir ddiddordebau ac awch pob person. Mae'n gweithio pan nad yw'r atebion na'r canlyniadau wedi'u diffinio o flaen llaw. Nid yw'n gweithio pan fo'r atebion gan y trefnydd yn barod.

Gellir defnyddio Gofod Agored a Chaffi'r Byd mewn nifer o ffyrdd i adfywio prosesau traddodiadol, sy'n cynnwys:

  • Cynadleddau i staff ac aelodau
  • Digwyddiadau ymgynghorol i gwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth
  • Digwyddiadau cynllunio busnes
  • Ymgynghori â'r gymuned
  • Prosesau hunan werthuso
  • Adolygiadau gwasanaeth

 

 
 

Mae’r Adolygiad Marmot wedi cefnogi datblygiad strategaeth anghydraddoldebau iechyd rhanbarthol yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Fel rhan o hwn roedd digwyddiad gofod agored gyda dros 200 o hapddalwyr, gan gynnwys gweithwyr, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd. Rhai o’r blaenoriaethau allweddol a ddaeth i’r amlwg oedd adeiladu ar yr ymagwedd asedau o fewn y rhanbarth a chryfhau ymagweddau datblygu cymunedol.

Gwydraid hanner llawn: sut y gall ymagwedd asedau wella iechyd a lles cymuned (2010)