community Cymunedau yw conglfeini ein cymdeithas ac oddi mewn iddynt mae gwledd o gryfderau a photensial. Yn draddodiadol mae llywodraethau wedi ceisio nodi anghenion cymunedau a'u categoreiddio yn nhermau lefel amddifadrwydd. Hwyrach bod angen elfen o flaenoriaethu, ond yn aml, mae canolbwyntio ar anghenion fel hyn yn arwain at lefel uwch o ddibyniaeth. Mae hefyd yn anwybyddu'r caffaeliaid niferus sydd gan unigolion, grwpiau a chyfansoddiad y gymdogaeth.

Mae Taith yn gweithio gyda chymunedau i adnabod a chanolbwyntio ar eu cryfderau a'u medrau - beth sy'n gweithio, pam mae'n gweithio, a sut gellir harneisio a datblygu hyn.

Rydym yn defnyddio nifer o ymagweddau gan gynnwys Ymchwilio Gwerthfawrogol, Gofod Agored a Chaffi'r Byd i greu proses gadarnhaol, ysbrydoledig a chreadigol. Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig, unigolion gydag anabledd a phobl hyn.

 

 
 

Ni allwn wasanaethu地 cymunedau地 effeithiol...os credwn ni, y rhoddwyr, mai ni地 unig sy地 hanner llawn, a bod pawb y gwasanaethwn yn hanner gwag...mae llu o sgiliau a doniau地 bodoli yn ein cymunedau, a地 gwaith ni fel gweision da ac arweinwyr da...yw bod a池 gallu i adnabod y doniau hyn mewn eraill, a置 helpu i蜘 gweithredu. Michelle Obama

A glass half-full: how an asset approach can improve community health and well-being (2010)