Mae Ymchwiliad Gwerthfawrogol (YG) yn
ffordd o edrych ar bethau sy'n dwyn y gorau o'r gorffennol a'i ddefnyddio
i adeiladu dyfodol cadarnhaol ac ystyrlon. Mae Wikipedia yn
diffinio YG fel 'Modd penodol o ofyn cwestiynau a darlunio'r dyfodol
drwy fabwysiadu perthnasau cadarnhaol ac adeiladu ar y daioni sylfaenol
mewn unigolyn, sefyllfa neu sefydliad. Drwy wneud hyn mae'n gwella
gallu'r system i gydweithio a newid.'
Mae modelau traddodiadol o werthuso sefydliadol, boed hynny'n allanol
neu'n fewnol, yn canolbwyntio ar gynlluniau gweithredu sy'n deillio
o wendidau a diffygion. Gallai'r rhain gael effaith yn y tymor byr,
ond yn y tymor hir, fel arfer, bydd unigolion yn tueddu tuag at
hen arferion a ffyrdd o weithio; bydd pennau wedi symud ond nid
calonnau.
Mae gan Ymchwiliad Gwerthfawrogol effaith hir dymor gan ei fod
yn tynnu pobl i mewn i drafodaethau am yr hyn sydd wedi gweithio
iddynt hwy. Y syniad sylfaenol yw adeiladu a datblygu sefydliadau'n
seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio, yn hytrach na cheisio trwsio'r
hyn nad yw'n gweithio. Mae'n gweithio i'r gwrthwyneb i'r broses
datrys problemau traddodiadol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y
bylchau a'r diffygion er mwyn beio eraill a gorfod dod o hyd i sgiliau
ac ymarferion adfer, mae YG yn canolbwyntio ar greu a datblygu mwy
o'r perfformiad eithriadol a welir o dro i dro.
Yn ymarferol, gellir defnyddio YG mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
Fel fframwaith i’r broses hunan werthuso
Adolygiad o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau
a systemau
Fel sail i adolygiad thematig (e.e. gwasanaeth cwsmeriaid neu
gyfleoedd cyfartal)
Fel catalydd i newid diwylliannol I strwythuro proses goruchwylio
I hwyluso gwaith person ganolog a’r broses gynllunio
Cliciwch yma i weld detholiad o sylwadau
gan unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ein cyrsiau YG
Defnyddir Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn gynyddol yn y DU gan sefydliadau
statudol, gwirfoddol a phreifat. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio'n
llwyddiannus gan gwmnïau rhyngwladol fel Nokia, Halfords a British
Airways. I ddarganfod mwy am YG ac i weld cwestiynau cyffredin -
cliciwch yma.
Isod mae ychydig o adroddiadau defnyddiol a chysylltau eraill:.
Sowing
Seeds: Public Service Management Wales (PSMW) publication
on AI
A
glass half-full: how an asset approach can improve community
health and well-being (pdf):
Stoke
City Council - using AI to assist in getting ranked in The
Sunday Times Top 75 Best Public Sector Bodies 2010
`If we can't do more,
let's do it differently!': using appreciative inquiry to promote
innovative ideas for better health care work environments. Canadian
study of the effectiveness of AI (pdf).
Using
appreciative inquiry to improve classroom dynamics - This
study reports on a project, Growing Talent for Inclusion (GTI),
which used an Appreciative Inquiry approach to improve social
dynamics in mainstream classrooms.
Nid ydym yn disgrifio'r byd rydym yn
ei weld, rydym yn gweld y byd rydym yn ei ddisgrifio.
David Cooperrider (2000)
Y dasg sy'n wynebu arweinwyr sefydliadau
yw creu unioniad o gryfderau mewn ffyrdd sy'n gwneud gwendidau'r
system yn amherthnasol.
Peter Drucker
Gellir defnyddio YG fel techneg i werthuso,
ond ei brif bwrpas yw adnabod ymarfer da, a chyflwyno a gweithredu
newid yn llwyddiannus.
NFER report
Mae ein ffocws yn dod yn realaeth.
Os ydym yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o'i le, neu'r hyn sydd
ar goll, rydym yn dueddol o weld popeth drwy'r hidlen honno
neu'r agwedd honno.
Sue Annis Hammond - Thin Book of
AI
Mae ymarferion gorau yn datblygu ac
yn gwella drwy ddefnyddio ymchwiliad gwerthfawrogol. Os yw
ymarfer da yn datblygu, yna mae cryfderau'r gweithwyr hefyd
yn datblygu yn ogystal â boddhad cwsmeriaid. Pan mae sefydliadau'n
gwella'r hyn maent yn ei wneud orau, bydd yr holl hapddalwyr
yn hapus.